Yn unol â Rheol Sefydlog 11.7(iv), mae'r Pwyllgor Busnes yn gyfrifol am wneud argymhellion ar arferion a gweithdrefnau cyffredinol y Senedd, gan gynnwys unrhyw gynigion ar gyfer ail-wneud y Rheolau Sefydlog neu eu diwygio.
Mae'r adroddiad hwn yn argymell newid Rheolau Sefydlog 13.15 a 17.28 i ddiwygio rheol sub judice y Senedd drwy roi disgresiwn i'r Llywydd neu gadeiryddion pwyllgorau benderfynu a ellir trafod mater sy'n sub judice yn y Senedd.
Gwahoddir y Senedd i gymeradwyo'r cynigion i ddiwygio'r Rheolau Sefydlog fel yn Atodiad A. Mae'r Rheolau Sefydlog diwygiedig, os cânt eu cymeradwyo, yn Atodiad B.
2. Ystyriaeth y Pwyllgor Busnes
Atodiad A – Newidiadau arfaethedig i Reolau Sefydlog 13 a 17 a nodiadau esboniadol
Atodiad B – Rheolau Sefydlog 13.15 a 17.28, fel y'u diwygiwyd
Atodiad C – Canllawiau diwygiedig ar y modd priodol o gynnal busnes y Senedd
1. Mae Adran 31 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 yn ei gwneud yn ofynnol i drafodion y Senedd gael eu rheoleiddio gan Reolau Sefydlog ac mae'n datgan:
(2) The standing orders must include provision for preserving order in Senedd proceedings, including provision for—
(a) preventing conduct which would constitute a criminal offence or contempt of court, and
(b) a sub judice rule.
2. Diben y darpariaethau sub judice yw cydbwyso braint Aelodau i drafod unrhyw fater y mae’r Senedd yn gyfrifol amdano a sicrhau, wrth wneud hynny, nad yw'n arwain at “risg real a sylweddol” o ragfarnu materion sydd gerbron y llysoedd.
3. Mae Rheol Sefydlog 13.15, sy'n ymwneud â sub judice yn nhrafodion y Cyfarfod Llawn, yn nodi:
Yn ddarostyngedig i hawl y Senedd i ddeddfu ar unrhyw fater neu i drafod is-ddeddfwriaeth, rhaid i Aelod beidio â chodi unrhyw fater na mynd ar drywydd unrhyw fater yn y cyfarfodydd llawn sy’n ymwneud ag achosion sydd ar waith (fel y’u diffinnir yn Atodlen 1 i Ddeddf Dirmygu Llys 1981) neu os bydd Comisiynydd Plant Cymru, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru neu Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru wedi penderfynu cynnal archwiliad o achos, tan yr adeg pan fydd dyfarniad wedi’i roi neu pan fydd adroddiad wedi’i wneud gan y naill Gomisiynydd neu’r llall neu’r Ombwdsmon, oni bai bod y Llywydd yn fodlon:
(i) bod gan y mater berthynas glir â mater o bwys cyhoeddus cyffredinol neu fod penderfyniad gweinidogol o dan sylw;
(ii) nad yw’r mater yn ymwneud ag achos sydd i’w wrando, neu sy’n cael ei wrando, gerbron llys troseddau neu gerbron rheithgor neu ag achos sydd i’w wrando, neu sy’n cael ei wrando, mewn achos teuluol; a
(iii) nad yw’r Aelod, yn ei sylwadau, yn creu risg real a sylweddol o ragfarnu achos llys, naill ai’n gyffredinol neu mewn perthynas ag achos penodol.
4. Mae Rheol Sefydlog 17.28, sy'n ymwneud â sub judice mewn trafodion pwyllgor, yn debyg, gan gyfeirio at Gadeirydd y Pwyllgor, yn hytrach na'r Llywydd.
5.
Mae'r Rheolau Sefydlog hyn yn nodi
diffiniad o faterion sy'n sub judice, ac o dan ba amgylchiadau y
caiff y Llywydd neu gadeirydd pwyllgor ganiatáu i faterion
o'r fath gael eu codi.
6. Yn y cyfarfod ar 26 Mawrth 2020, nododd y Pwyllgor Busnes fod y Rheolau Sefydlog yn cyfeirio at achosion sy’n cael eu harchwilio gan Gomisiynydd Plant Cymru, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru neu Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, ond nad oeddent yn cynnwys y Comisiynwyr eraill sydd â'r pŵer i archwilio achosion unigol.
7. Yn ei gyfarfod ar 18 Ionawr 2021, penderfynodd y Pwyllgor Busnes, yn hytrach na diwygio'r testun i gynnwys Comisiynwyr ychwanegol, y byddai'n well diogelu'r Rheolau Sefydlog at y dyfodol drwy ddileu pob cyfeiriad at y Comisiynwyr a'r Ombwdsmon, a chyfeirio’n unig at y darpariaethau perthnasol yn y Ddeddf Dirmygu Llys. Byddai hyn yn sicrhau bod Rheolau Sefydlog y Senedd yn cyd-fynd â rhai Senedd yr Alban a Chynulliad Gogledd Iwerddon. Mae’r ddarpariaeth newydd yn bodloni'r gofyniad statudol i'r Senedd gael rheol sub judice sy'n ymwneud â materion sydd gerbron y llysoedd.
8. Mae Rheolau Sefydlog 13.15 a 17.28 yn cynnwys rhesymau pam y caiff y Llywydd (neu'r Cadeirydd) ystyried ei bod yn briodol codi mater sy'n sub judice:
(i) bod gan y mater berthynas glir â mater o bwys cyhoeddus cyffredinol neu fod penderfyniad gweinidogol o dan sylw;
(ii) nad yw’r mater yn ymwneud ag achos sydd i’w wrando, neu sy’n cael ei wrando, gerbron llys troseddau neu gerbron rheithgor neu ag achos sydd i’w wrando, neu sy’n cael ei wrando, mewn achos teuluol; a
(iii) nad yw’r Aelod, yn ei sylwadau, yn creu risg real a sylweddol o ragfarnu achos llys, naill ai’n gyffredinol neu mewn perthynas ag achos penodol.
9. Yn hytrach na phennu rhesymau, mae Rheolau Sefydlog yr Alban a Gogledd Iwerddon yn nodi y gellir codi materion o'r fath i'r graddau y mae’r Llywydd/Llefarydd yn caniatáu hynny.
10.
Mae'r Pwyllgor Busnes yn cynnig bod y
Senedd yn mabwysiadu dull tebyg drwy ddileu'r darpariaethau hyn o'r
Rheolau Sefydlog a'u cynnwys yn lle hynny fel enghreifftiau yng
Nghanllawiau’r Llywydd ar y modd priodol o gynnal busnes y
Senedd, a gyhoeddir o dan Reol Sefydlog 6.17. Mae’r adran
ddiwygiedig berthnasol o'r Canllawiau i’w gweld yn Atodiad
C.
11. Cytunodd y Pwyllgor Busnes yn ffurfiol ar y newidiadau i'r Rheolau Sefydlog ar 2 Mawrth 2021. Gwahoddir y Senedd i gymeradwyo'r Rheolau Sefydlog newydd arfaethedig yn Atodiad B, ac i nodi’r Canllawiau diwygiedig yn Atodiad C.
Atodiad A – Newidiadau arfaethedig i Reolau Sefydlog 13 a 17 a nodiadau esboniadol
|
Sub Judice |
Cadw'r pennawd |
13.15 |
Yn ddarostyngedig i hawl y Senedd i ddeddfu ar unrhyw fater
neu i drafod is-ddeddfwriaeth, rhaid i Aelod beidio â chodi
unrhyw fater na mynd ar drywydd unrhyw fater yn y cyfarfodydd llawn
sy’n ymwneud ag achosion sydd ar waith (fel y’u
diffinnir yn Atodlen 1 i Ddeddf Dirmygu Llys 1981), ac eithrio
i’r graddau a ganiateir gan y Llywydd.
(iii)
|
Diwygio'r Rheol Sefydlog Mae’r diwygiad yn dileu pob cyfeiriad at y Comisiynwyr a'r Ombwdsmon, gan gyfeirio’n unig at ddarpariaethau perthnasol y Ddeddf Dirmyg Llys, gan sicrhau bod y Rheol Sefydlog yn cyd-fynd â'r rhai yn yr Alban a Gogledd Iwerddon. Mae’r ddarpariaeth newydd yn bodloni'r gofyniad statudol i'r Senedd gael rheol sub judice sy'n ymwneud â materion sydd gerbron y llysoedd. |
|
Sub Judice |
Cadw'r pennawd |
17.28 |
Yn ddarostyngedig i hawl y Senedd i ddeddfu ar unrhyw fater
neu i drafod is-ddeddfwriaeth, rhaid i Aelod beidio â chodi
unrhyw fater na mynd ar drywydd unrhyw fater mewn cyfarfodydd
pwyllgor sy’n ymwneud ag achosion sydd ar waith (fel
y’u diffinnir yn Atodlen 1 i Ddeddf Dirmygu Llys 1981), ac
eithrio i’r graddau a ganiateir gan y Cadeirydd.
(iii)
|
Diwygio'r Rheol Sefydlog Mae’r diwygiad yn dileu pob cyfeiriad at y Comisiynwyr a'r Ombwdsmon, gan gyfeirio’n unig at ddarpariaethau perthnasol y Ddeddf Dirmyg Llys, gan sicrhau bod y Rheol Sefydlog yn cyd-fynd â'r rhai yn yr Alban a Gogledd Iwerddon. Mae’r ddarpariaeth newydd yn bodloni'r gofyniad statudol i'r Senedd gael rheol sub judice sy'n ymwneud â materion sydd gerbron y llysoedd. |
Atodiad B – Rheolau Sefydlog 13.15 a 17.28, fel y'u diwygiwyd
13.15 Yn ddarostyngedig i hawl y Senedd i ddeddfu ar unrhyw fater neu i drafod is-ddeddfwriaeth, rhaid i Aelod beidio â chodi unrhyw fater na mynd ar drywydd unrhyw fater yn y cyfarfodydd llawn sy’n ymwneud ag achosion sydd ar waith (fel y’u diffinnir yn Atodlen 1 i Ddeddf Dirmygu Llys 1981), ac eithrio i’r graddau a ganiateir gan y Llywydd.
17.28 Yn
ddarostyngedig i hawl y Senedd i ddeddfu ar unrhyw fater neu i
drafod is-ddeddfwriaeth, rhaid i Aelod beidio â chodi unrhyw
fater na mynd ar drywydd unrhyw fater mewn cyfarfodydd pwyllgor
sy’n ymwneud ag achosion sydd ar waith (fel y’u
diffinnir yn Atodlen 1 i Ddeddf Dirmygu Llys 1981), ac eithrio
i’r graddau a ganiateir gan y Llywydd.
Atodiad C – Canllawiau diwygiedig ar y modd priodol o gynnal busnes y Senedd
201. Yn unol â
Rheol Sefydlog 13.15, rhaid i Aelodau beidio â chodi unrhyw fater na mynd ar
drywydd unrhyw fater mewn Cyfarfodydd Llawn sy’n ymwneud ag
achosion llys sydd ar waith (fel y’u diffinnir yn
Atodlen 1 i Ddeddf
Dirmygu Llys 1981), neu pan
fydd Comisiynydd Plant Cymru, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru neu
Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru wedi penderfynu cynnal
archwiliad o achos, a hynny tan yr adeg pan fydd dyfarniad
wedi’i roi neu pan fydd adroddiad wedi’i wneud gan y
naill Gomisiynydd neu’r llall neu’r Ombwdsmon, oni bai
bod y Llywydd yn fodlon:ac eithrio i’r graddau a
ganiateir gan y Llywydd. Cyn caniatáu i faterion o'r fath
gael eu codi, byddai'r Llywydd am fod yn fodlon:
i. bod gan y mater berthynas glir â mater o bwys cyhoeddus cyffredinol neu fod penderfyniad gweinidogol o dan sylw;
ii. nad yw’r mater yn ymwneud ag achos sydd i’w wrando, neu sy’n cael ei wrando, gerbron llys troseddau neu gerbron rheithgor neu ag achos sydd i’w wrando, neu sy’n cael ei wrando, mewn achos teuluol; ac
iii. nad yw’r Aelod, yn ei sylwadau, yn creu risg real a sylweddol o ragfarnu achos llys, naill ai’n gyffredinol neu mewn perthynas ag achos penodol.